Skip to Content

Show / Hide Menu

Caerdydd

Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau:
Crynodeb Casgliadau ar gyfer Dinas a Sir Caerdydd

Hyd yn hyn, bu diffyg tystiolaeth ystadegol gan Gymru am rôl cymunedau ffydd yn y cymunedau ehangach y maen nhw’n rhan ohonynt.  Mae adroddiad Gweini, Ffydd yng Nghymru: Yn Cyfrif i’n Cymunedau, yn darparu gwybodaeth newydd am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan gymunedau ffydd i’r gymuned ehangach, gan gynnwys: niferoedd y gwirfoddolwyr maen nhw’n eu defnyddio, niferoedd y staff maen nhw’n eu cyflogi i weithio gyda’r gymuned ehangach, yr ystafelloedd a’r neuaddau maen nhw’n eu cynnig, a’u heffaith ar dwristiaeth.

Cyrhaeddodd yr arolwg a fu’n sail i’r adroddiad gyfradd ymateb ardderchog ychydig dros 49%, (ychydig o dan 49% i Gaerdydd), ac mae hyn yn ein galluogi i greu crynodebau i bob un o’r awdurdodau unedol.  Dyma rai o uchafbwyntiau’r wybodaeth sydd ar gael ar gyfer Caerdydd.

Ar sail yr ymchwil hon, a gwybodaeth arall, mae’n cael ei amcangyfrif bod dros 200 o gymunedau ffydd yn weithredol yng Nghaerdydd.  Ymhlith y rhain ceir un mosg ar ddeg, pedair Teml Hindŵaidd, pedwar Gurdwara Sikhaidd a dwy Synagog.  At hynny, mae nifer o ganolfannau Bwdhaidd a Bahá’í.   Eglwysi Cristnogol yw’r gweddill (cynulleidfaoedd unigol, neu blwyfi yn achos yr Eglwys yng Nghymru), gan gynrychioli un eglwys i bob 1,600 o bobl yng Nghaerdydd.

Bob wythnos, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 7.6% o boblogaeth Caerdydd yn mynychu gwasanaeth eglwys neu gapel.  Serch hynny, mae’r ffigwr hwn yn tanamcangyfrif y niferoedd sy’n mynychu dros gyfnod o flwyddyn.  Gan gymryd y gwasanaeth unigol mwyaf ym mhob cynulleidfa dros flwyddyn mae’r ffigwr yn codi i 11%.  Mae’n rhaid bod cyfran sylweddol uwch na hyn yn mynychu un neu ragor o wasanaethau eglwys ar draws blwyddyn.

Mae amrywiaeth y gwasanaethau y mae eglwysi yn eu darparu yng Nghaerdydd yn enfawr, gan gynnwys sawl gwasanaeth nad oes modd i lywodraethau eu darparu.  Y pump uchaf yw Gwaith Plant (o dan 14 oed); Gweithgareddau Cymdeithasol (clwb cinio, bar coffi, ac ati); Paratoi ar gyfer Priodas; Ymweld ag Ysbytai; a Grwpiau Rhieni a phlant bach; mae niferoedd yr eglwysi sy’n cymryd rhan yn y rhain yn cael ei hamcangyfrif yn 129, 127, 95, 94 a 93, yn eu tro.

Ar ben hynny, mae nifer o eglwysi’n gweithio eisoes mewn meysydd o angen a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg; mae tua 20 eglwys yn gweithio eisoes mewn o leiaf un o’r meysydd o blith hyfforddiant cyflogaeth, ymwybyddiaeth am gyffuriau ac alcohol, a materion cyllid personol ac mae 35 yn gobeithio gweithio yn y meysydd hyn yn y dyfodol.

Mae dros 95% o’r eglwysi yng Nghaerdydd yn weithredol mewn un maes neu’r llall o wasanaethau cymunedol, gyda chyfartaledd o tua naw maes o weithgarwch yr un.

Mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 4,300 o wirfoddolwyr yn gweithio ar ran y gymuned ehangach mewn gweithgareddau wedi’u trefnu gan eglwysi yng Nghaerdydd.  Mae hyn yn cynrychioli dros 8,500 o oriau’r wythnos, sy’n gyfwerth â thua 210 o weithwyr llawn amser.

At hynny, mae eglwysi yng Nghaerdydd yn cyflogi dros 170 o staff i weithio gyda’r gymuned ehangach, gan gynrychioli 2,500 o oriau pellach yr wythnos, sy’n gyfwerth â thros 60 o weithwyr llawn amser.

Mae llawer o eglwysi’n darparu ystafelloedd a neuaddau ar gyfer y gymuned ehangach.  Yng Nghaerdydd, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 40 yn gweithredu canolfannau cymunedol at bwrpas; mae tua 120 yn rhentu ystafelloedd i grwpiau allanol; ac mae tua 80 yn cynnig rhai ystafelloedd am ddim.

Mae eglwysi’n cynnig cefnogaeth i’r iaith Gymraeg: mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 25 eglwys yng Nghaerdydd yn cymryd rhan mewn cynnal dosbarthiadau yn Gymraeg, neu weithgareddau ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Gan ddefnyddio technegau safonol, mae effaith budd economaidd rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan eglwysi i Gaerdydd yn cael ei amcangyfrif i fod tua £9.2M y flwyddyn.

Ac, wrth gwrs, dyma ond ychydig o effaith yr eglwysi.  Er enghraifft, mae’n cael ei amcangyfrif bod tua 25 eglwys yng Nghaerdydd yn cymryd rhan weithredol yn eu Strategaeth Gymunedol leol neu wedi cymryd rhan mewn mentrau adfywio’r Llywodraeth neu fentrau datblygiad economaidd neu gymdeithasol, neu’r ddau. 

E-bost info@gweini.org.uk

 

Gweini: Cynghrair Efengylaidd Cymru yn gweithio gyda mudiadau Cristnogol eraill yng Nghymru.
Mae'r Cyngrhair Efengylaidd yn gwmni cyfyngedig drwy warant, wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr, rhif 123448 Elusen Gofrestredig Rhif 212325

© Hawlfraint 2008-2018 Gweini & Cynghrair Efengylaidd Cymru. Preifatrwydd a Chwcis
Datblygu gwefan i Elusennau ac Eglwysi gan Doive Designs